Braint ac anrhydedd oedd derbyn yr englynion hyn oddi wrth Jon Meirion Jones yn ddiweddar.
It was an honour and a privilege to receive these 'englynion' from Jon Meirion Jones recently.
I gyfarch Rhiannon Lewis ar achlysur cyhoeddi ei nofel gyntaf - 'My Beautiful Imperial' yng Nghastell Aberteifi nos Sadwrn 16eg Rhagfyr, 2017
Pur yw ias Valparaiso, - y mae'n rhwym
mewn rhamant a chyffro;
ein braint am forwriaeth bro -
Rhiannon wnaeth olrheinio.
Heno, penllanw anian, - llawenydd
a llên dawn Brynllynan;
'rwy'n dyheu, a chreu o'ch rhan
daw rhagor o'r darogan.